Vacancies

 


Welcome / Croeso
 

Ysgol uwchradd gymunedol cymysg a dwyieithog, gyda thua 1500 o ddisgyblion yw Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth. Mae’n darparu addysg i bob ystod gallu rhwng 11 a 18 oed. Sefydlwyd yr ysgol ym Medi 2005 drwy uno Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth Cambria ac Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth Maridunum. Gellir olrhain ei gwreiddiau yn ôl i’r flwyddyn 1576 pan sefydlwyd Ysgol Ramadeg y Frenhines Elisabeth yn Stryd y Priordy, Caerfyrddin er budd masnachwyr y dref. Y mae’r ysgol newydd yn ymwybodol iawn felly ei bod yn rhan o draddodiad sy’n rhychwantu 430 mlynedd o lwyddiant academyddol ac allgyrsiol.

Lleolir yr ysgol yn nyffryn hyfryd yr Afon Tywi ac y mae iddi dalgylch bennaf wledig sy’n cwmpasu’r rhan helaeth o Sir Gaerfyrddin yn cynnwys tref farchnad y sir. Ar hyn o bryd, y mae’r campws cyfan yn cael ei ail ddatblygu gyda miliynau o goffrau’r Cyngor Sir yn cael eu buddsoddi ar gyfer:

  • ysgol newydd bwrpasol i 1600 o ddisgyblion.

  • cyfleusterau hamdden eang ac adnewyddol yn cynnwys pwll nofio safon cystadlu ynghyd ag amryw adnoddau arbennig ychwanegol.

  • cyfleusterau chwaraeon allanol newydd sbon, yn cynnwys cyrtiau tenis, maes pob tywydd, trac rhedeg a chaeau chwarae.

Cwblheir y rhaglen adeiladu yn ystod y flwyddyn academaidd 2008/09, a thrwyddi fe ddarperir gyfleusterau anhygoel i holl ddisgyblion a staff yr ysgol.

Ceir gysylltiadau effeithiol ar lefel academig, bugeiliol a chymdeithasol rhwng yr ysgol a’i dwy ar bymtheg ysgol gynradd partnerol benodol. Yn flynyddol daw disgyblion o wyth ysgol gynradd ychwanegol, ysgolion sydd y tu hwnt i ffiniau’r dalgylch swyddogol.

Y mae’r ysgol yn falch iawn o lwyddiannau holl aelodau’i chymuned a goddefir dim llai na’r safonau uchaf mewn gwaith, ymddygiad, agwedd ac ymddangosiad.

Cenhadaeth penodedig yr ysgol yw Ymlaen Gyda’n Gilydd - y mae ei holl aelodau yn symud ymlaen er mwyn darparu rhagoriaeth addysgol. Gwelir y genhadaeth hon fel ymgorfforiad o:

GYMERIAD YR YSGOL

Mae’n ddatganiad o gyd-benderfyniad, wedi’i wreiddio mewn diwylliant addysgol. Mae’n amlwg yn y berthynas a’r cyswllt rhwng aelodau cymuned yr ysgol.

YMDDYGIAD YR YSGOL

Mae’n tanategu ac yn ymledu ymddygiad presennol pawb a wnelo â chymuned yr ysgol, wrth iddynt weithio mewn undod tua’r nod o ragoriaeth addysgol.

EGWYDDORION YR YSGOL

Mae’n ddatganiad gyfunol, uchelgeisiol bod yr ysgol yn edrych tua’r dyfodol gydag ymrwymiad i gynnydd addysgol.

Gweledigaeth yr ysgol yw am gymuned alluog, ymatebol, gynhwysfawr, dwyieithog a chefnogol, cymuned sydd â’r safonau addysgu a dysgu uchaf posib.

Nod yr ysgol yw sicrhau llwyddiant pob plentyn. Cyflawnir hyn drwy:

    1. sicrhau hawl bob unigolyn i addysg sy’n anwesu goleuedigaeth, cydymdeimlad a gweithgaredd.

    2. galluogi deallusrwydd moesol ac ethegol, hunaniaeth, cyfrifoldeb, doethineb a’r gweledigaeth i dyfu.

    3. bod yn uchelgeisiol yn ei gwaith a meddu ar hyder ym mhob plentyn i lwyddo.

 

Os oes gennych gwestiynau pellach, cysylltwch â ni yn ddi-oed. Os ydych yn ddarpar ddisgybl, yn rhiant neu’n ddarpar weithiwr sydd â diddordeb mewn ymweld â’r ysgol, ein pleser ni fyddai’ch tywys o gwmpas.

yn gywir,

Tim Day BA, MAdd

PENNAETH

Welcome Message from the Headmaster