Skip to main content Skip to footer

Siarter Iaith Gymraeg / Welsh Language Charter
Croeso i Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth / Welcome to Queen Elizabeth High School!

At Queen Elizabeth High School, we are proud to be part of the Siarter Iaith Gymraeg (Welsh Language Charter), an exciting national initiative that promotes the use and enjoyment of the Welsh language in schools and beyond. Our aim is to create a vibrant, inclusive environment where Cymraeg is visible, valued, and used naturally by pupils, staff, and the wider school community.

Through the Siarter Iaith, we encourage all learners—whether fluent speakers or complete beginners—to develop confidence in using Welsh in their everyday lives. We believe that language is a living part of our identity, and by embracing Cymraeg, we strengthen our connection to the culture, heritage, and community of Wales.

 

 

A key part of our work is led by our Criw Cymraeg—a dedicated group of pupils who champion the Welsh language across the school. They help organise activities, promote Welsh events, and encourage the use of Cymraeg both inside and outside the classroom. Their enthusiasm plays a vital role in creating a positive and supportive Welsh ethos throughout the school.

As part of our Siarter Iaith journey, we are committed to:

  • Creating a strong Welsh atmosphere across the school
  • Increasing opportunities for pupils to use Welsh socially and informally
  • Celebrating Welsh culture through events such as Shwmae Day, Dydd Miwsig Cymru, and Dydd Gŵyl Dewi
  • Encouraging participation in activities like the Urdd Eisteddfod and other cultural experiences
  • Working with our partner primary schools and the wider community to share good practice and inspire one another

We are currently working towards achieving the Bronze award.  This award will recognize our progress in promoting the Welsh language and embedding it into everyday school life. This is part of the wider national vision of reaching one million Welsh speakers by 2050.

Dewch i ymuno â ni ar ein taith Gymraeg!


Join us on our Welsh language journey and discover how you can be part of our thriving bilingual community.

 

Y Siarter Iaith yn Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth!

Yn Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth, rydyn ni’n falch o fod yn rhan o'r Siarter Iaith.  Ein nod yw creu amgylchedd bywiog a chynhwysol lle mae'r Gymraeg yn weladwy, yn werthfawr, ac yn cael ei defnyddio'n naturiol gan ddisgyblion, staff, a chymuned ehangach yr ysgol.

Drwy'r Siarter Iaith, rydyn ni’n annog pob dysgwr i ddatblygu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd. Rydyn ni’n credu bod iaith yn rhan o'n hunaniaeth, ac wrth ddefnyddio’r Gymraeg, rydyn ni’n cryfhau ein cysylltiad â diwylliant a threftadaeth Cymru.

Mae’r rhan fwyaf o'r gwaith yma yn cael ei arwain gan ein Criw Cymraeg — grŵp ymroddedig o ddisgyblion sy'n hyrwyddo'r Gymraeg ar draws yr ysgol. Mae’r Criw Cymraeg yn helpu i drefnu gweithgareddau, yn hyrwyddo digwyddiadau Cymraeg, ac yn annog defnydd o'r Gymraeg o fewn ac y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Mae eu brwdfrydedd yn chwarae rhan hanfodol wrth greu ethos Cymraeg positif a chefnogol drwy'r ysgol gyfan.

Fel rhan o'n taith Siarter Iaith, rydyn ni wedi ymrwymo i:

  • Creu awyrgylch Cymraeg ar draws yr ysgol
  • Cynyddu cyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio'r Gymraeg yn gymdeithasol ac yn anffurfiol
  • Dathlu diwylliant Cymru drwy ddigwyddiadau fel Diwrnod Shwmae, Dydd Miwsig Cymru, a Dydd Gŵyl Dewi
  • Annog disgyblion i gymryd rhan mewn gweithgareddau fel Eisteddfod yr Urdd a phrofiadau diwylliannol eraill
  • Gweithio gyda'r ysgolion cynradd lleol a'r gymuned ehangach i rannu arfer da ac ysbrydoli ein gilydd

Ar hyn o bryd, rydyn ni’n gweithio tuag at ennill y Wobr Efydd. Bydd y wobr hon yn cydnabod ein cynnydd o ran hyrwyddo'r Gymraeg a'i hymgorffori ym mywyd bob dydd yr ysgol. Mae hyn yn rhan o weledigaeth genedlaethol ehangach o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Cookie Notice